Cymdeithas Ddawns Werin Cymru
Welsh Folk Dance Society
Dawnsiau Nantgarw Dances
CATHERINE MARGRETTA THOMAS gan Dr Ceinwen Roberts Ganwyd fy mam ar y 5ed o lonawr, 1880, y nawfed ar ieuengaf o blant Daniel a Hannah Davies, Nantgarw. Yr oedd un chwaer ganddi, ond bu'r chwaer farw yn 16 mlwydd oed, pan oedd fy mam yn dair oed, gan adael fy mam yn unig ferch mewn teulu mawr o fechgyn. Nid oes syndod, felly, ei bod yn fwy o fachgen nag o ferch, fel y byddai hi ei hun yn cyfaddef, yn dringo coed yn chwarae marbis, a jac stons gyda bechgyn ac yn casau doliau. Yr enwau y ddewiswyd iddi oedd Blodwen Jemima (!), ac anfonwyd ei chwaer i Ffynnon Daf i'w chofrestru dan yr enwau hyn. Ond ar y ffordd, cyfarfu'r chwaer a Mrs. Rees, gwraig y gweinidog - yr oedd y teulu ar y pryd yn aelodau yn Eglwys Annibynnol Glan Dwr Taf yng Nglanllyn, pentref filltir neu lai o Nantgarw yng nghyferiad Caerdydd. Holodd Mrs. Rees am y babi newydd a gofyn ei henw. Wedi cael clywed, meddai hi: "Peidiwch a dodi hynny arni. Dodwch Catherine Margretta, ar ol fy merched i". Yr adeg honno, yr oedd y parch i weinidogion a'u teuluoedd yn gymaint, fel na thrafferthodd chwaer fy mam i fynd adref i ofyn cennad ei rhieni, ond cydsyniodd yn y fan a'r lle a mynd rhag ei blaen i gofrestru'r chwaer fach yn enwau merched y gweinidog. Y gweinidog oedd y Parch William Rees - Mr. Rees, Glan Dwr , fel y cyfeiria fy mam ato bob amser - ac yr oedd ei ferched wedi marw'n ifanc a'u claddu ym mynwent Glan Dwr cyn geni fy mam, Catherine yn 16 oed a Margretta yn 21 oed. Nid oes son bod neb wedi galaru ar ol Blodwen Jemima, a theimlai fy mam ar hyd ei hoes iddi gael dihangfa fawr trwy ymyrraeth Mrs. Rees, Glan Dwr. Yn naturiol ddigon, yr oedd hi'n gryn ffefryn gan y gweinidog a'i wraig am ei bod yn dwyn enwau eu merched hwy, a hwy'n unig a fyddai'n ei galw wrth ei henw llawn. I bawb arall, Gretta oedd hi. Pan ddaeth hi'n dair oed, aeth y gweinidog ati i'w dysgu i adrodd darn mewn cystadleuaeth ar gyfer plant dan 8oed yn Eisteddfod Glan Dwr. Enw'r darn oedd 'Y Deryn Du', a'm mam, yn dair oed, a ddyfarnwyd yn fuddugol! Cofiai ar hyd ei hoes gael ei chodi i'r llwyfan a oedd dros y Set Fawr, a sefyll yno mewn dychryn ac yn barod i lefain wrth weld y llu wynebau o'i blaen, nes i Mr. Rees godi ynghanol y dorf a chodi ei fys arni. Anghofiodd hithau'r dorf wrth wylio'r bys, fel yr oedd wedi cael ei dysgu, am yr arwydd i ddechrau adrodd.
Yr oedd eisteddfodau o bob math yn gyffredin iawn yn nwyrain Morgannwg yr adeg honno, rhai mawr, megis eisteddfod Caerffili neu "semi-national" Pontypridd (beth bynnag oedd ystyr yr enw hwnnw) a rhai bychain ar nosau Sadyrnau nad oeddynt fawr mwy na Chyrddau Adrodd, ac wrth gwrs,Eisteddfodau mewn capeli. Yr oedd y cyfan yn sicr o gynulliad digonol ac yr oedd y gwobrau a gynigiwyd yn rhyfeddol o hael - coron, neu chweugain, hyd yn oed, mewn eisteddfodau bychain am y prif ddarnau canu ac adrodd a chymaint a dau-gini yn yr eisteddfodau mawr - cryn swm, o gofio mai chweugain oedd cyflog llawer glowr ar y pryd, y rhai fel fy nhadcu yn cael eu cyfrif yn enillfor iawn am ennill pymtheg swllt ar hugain yr wythnos. Wedi'r cychwyn cynnar yna, aeth fy mam ymlaen i gystadlu mewn eisteddfodau dan yr enw Bronwen Taf nes iddi briodi. Yr arfer oedd i adroddwyr ddefnyddio ffugenwau a chantorion eu henwau eu hunain. Ni chystadieuodd erioed yn yr Eisteddfod Genediaethol, beth bynnag oedd y rheswm, er ei hod yn ddigon da o ran safon i wneud hynny. Diwrnod mawr i gynnal eisteddfodau oedd "Mabon's Day" a, hoffai fy mam adrodd am y llwyddiant arbennig a ddaeth i'w rhan un tro, stori sy'n rhoi cip inni ar weithgarwch eisteddfoddol y cyfnod. Yr oedd hi wedi cystadlu'n fore y diwrnod hwnnw yn eisteddfod Caerffili ac yna, wedi gofyn i'w brawd i wrando ar y feirniadaeth a derbyn y wobr drosti os enillai, aeth hithau a'i ffrind ar y tren i Bontypridd iddi gystadlu ar yr adrodd yn yr eisteddfod "semi-national". Gadawodd ei ffrind ym Mhontypridd i glywed y feirniadaeth tra'r aeth hithau gyda'r tren i Dreorci i eisteddfod arall eto. Yno cyfarfu a brawd arall iddi, yntau hefyd yn adroddwr, ac aeth y ddau gyda'i gilydd i gymryd rhan yn yr un gystadleuaeth. Wedyn, i ffwrdd a hithau gyda'r tren eto drwy'r twnel i Flaengwynfi i gystadlu yn y bedwaredd eisteddfod y diwrnod hwnnw. Y tro hwn, arhosodd ei hunan i glywed y feirniadaeth ac i dderbyn y wobr gyntaf o ddau gini cyn dal y tren yn ol i Bontypridd. Ar orsaf Treorci, yr oedd ei brawd yn aros i estyn iddi'r wobr gyntaf am ei rhan yn yr eisteddfod honno, ac i ddweud wrthi mai ef ei hun oedd yr ail orau, a'r cyntaf mewn cystadleuaeth adrodd arall. I Bontypridd a hi ac yno'r oedd ei ffrind yn aros a'r wobr gyntaf ganddi hithau am y gystadleuaeth honno. Ym Mhonytypridd, newidiwyd i dren Caerffili ac yn ol a'r ddwy yn hwyr y prynhawn i eisteddfod Caerffili. Yno'r oedd brawd fy mam yn disgwyl amdani i'w gyrru ar frys i Gapel y Twyn i ragbrawf cystadleuaeth adrodd olaf y dydd. Cyrhaeddodd y Twyn a'i gwynt yn ei dwrn, mewn pryd i ateb wrth i'r Ysgrifennydd alw ei henw o restr y cystadleuwyr. Daeth i'r llwyfan ac unwaith yn rhagor enillodd y wobr gyntaf. Wrth aros y feirniadaeth ar y gystadleuaeth olaf hon, aeth at ei brawd a derbyn o'i law ef y wobr gyntaf am y gystadleuaeth y bore - pedair eisteddfod a phump gwobr gyntaf mewn un diwrnod! Ac ennill deg gini mewn un diwrnod, swm enfawr yr adeg honno. Efallai mai'r ddau beth mwyaf syfrdanol yn y stori hon i ni heddiw ydyw bod modd pryd hynny ruthro o eisteddfod i eisteddfod yn y tren ar draws y cymoedd a bod pedair eisteddfod lewyrchus yn bosibl yr un diwrnod o fewn cyrraedd i'w gilydd. Rhan o gelfyddyd actio oedd adrodd yr adeg honno, a thebyg iawn oedd hyfforddiant adroddwr i'r hyfforddiant a gai actor a hawdd fyddai i'r adroddwr droi'n actor pe doi cyfle. Daeth y cyfle hwn i'm mam unwaith. Yr oedd wedi cystadlu mewn eisteddfod fawr yng Nghaerdydd ac wedi ennill ar ddarn nodweddiadol o'r 19eg ganrif, yn portreadu putain edifeiriol yn marw yn yr eira, wedi ei gadael a'i sarhau gan bawb. Yr oedd cwmni theatr o Loegr yng Nghaerdydd ar y pryd, a digwyddai actor-reolwr y cwmni, gwr o'r enw Wilson Barrett, fod yn y dorf yn gwrando arni. Drannoeth, daeth ei ysgrifennydd i gartref fy mam i gynnig iddi le yn y cwmni. Yr oedd fy mam wrth ei gwaith, a bach iawn o groeso a gafodd y dieithryn gan fy mamgu. Digwyddai un o'r meibion fod yn y ty i fod yn liladmerydd rhwng ei fam a'r Sais, a phan ddeallodd fy mamgu neges yr ymwelydd, ffromodd yn aruthrol. Iddi hi, porth uffern oedd y theatr broffesiynol ac anfonwyd y Sais i ffwrdd yn swta iawn. Ymhen blynyddoedd wedyn, byddai fy mam yn aml yn edifarhan am nad oedd wedi mynd ei hunan i weld Wilson Barrett i gael clywed ei gynnig ac, efallai, i fentroi fyd actio. Yn sicr, yr oedd ynddi'r ddawn i ddatblygu'n actores o fri, neu'n wir yn gantores opera, oblegid yr oedd talent actio ddiamheuol ganddi a meddai arlais soprano eithriadol iawn. Pan oedd yn tynnu at ei phedwar ugain oed, daeth trwy hap i sylw'r BBC ac anfonwyd amdani'n aml wedi hynny i ymddangos mewn rhaglenni, weithiau ar fyr rybudd. Yr oedd Mr. Emyr Humphreys yn gynhyrchwr drama (os dyna'i deitl priodol) ar y BBC ar y pryd y dywedodd wrthi unwaith. "Mi allwn ddefnyddio llawer arnoch chi, Mrs. Thomas, petaech chi ugain mlwydd yn iau." Yr oedd y sawl a'i gwelai ar y rhaglenni hyn yn synnu ei bod mor broffesiynol ac wrth gwrs, y gwir oedd, ei bod yn broffesiynol; yr oedd ei hyfforddiant a'i gyrfa fel adroddwraig wedi sicrhau hynny. Gallai staff y BBC adnabod "cymeriad" a buont yn garedig iawn i'm mam. Pan ddaeth pen ei blwydd yn ddwy a phedwar ugain oed, cafodd barti ganddynt- o flaen y camerau, wrth gwrs - a theisen ben blwydd yn ganhwyllau i gyd, er mawr ddifyrrwch iddi; oblegid ni chawsai deisen ben blwydd erioed, mwy na'r gweddill ohonom, gan mai ffrois, yn ol yr hen arfer Cymreig, oedd y danteithfwyd adeg pen blwydd yn Nantgarw, hyd yn gymharol ddiweddar. Aeth i'r ysgol ddyddiol, yn ol yr arfer, yn saith oed. Yn Ffynnon Daf yr oedd yr ysgol a byddai'n rhaid i'r plant dalu dwy geiniog yr wythnos yr un. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf i'm mam ei mynychu, fodd bynnag, oblegid yn bedair oed cafodd fynd i ysgol fach yn festri'r Ty Cwrdd, a gynhelid gan gwpwl priod rhadlon o'r enw Roberts, os iawn y cofiaf. Yr oedd hon yn nodedig am mai ysgol Gymraeg ydoedd a dysgwyd y plant i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg ac i rifo, y cyfan yn Gymraeg. A dysgwyd caneuon Cymraeg iddynt. Ar hyd ei hoes gallai ganu'r caneuon a ddysgodd yn yr ysgol fach hon. Yr oedd un ohonynt ar alaw 'Llwyn Onn' ac yn dechrau: Ni awn ni i'r ysgol yn lan ac yn gryno i ddysgu ein gwersi a'u cofio i gyd. Daeth yr ysgol i ben cyn i'm mam gyrraedd oedran mynychu ysgol ywladwriaeth trwy i Mr. a Mrs. Roberts symud o Nantgarw. Lle gwahanol iawn oedd ysgol Ffynnon Daf, ysgol Saesneg mor filwriaethus Saesneg a gwrth Gymraeg a'r ysgol waethaf yn y wlad, a'r Welsh Not mewn bri ynddi. Yr oedd y gansen mewn bri ynddi hefyd ac er mai merched o'r ardal oedd yr athrawesau, a rhai ohonynt yn aelodau yng nghapeli'r cylch, nid oeddent darnaid yn llai chwyrn wrth y plant oherwydd hynny nac yn fwy parod i roi lle i'r Oyaraeg yng ngweithgarwch yr ysgol. Bu fy mam yn annedwydd iawn ar hyd ei thymor yn yr ysgol ac yn ddeuddeg oed gwrthododd fynychu'r ysgol mwy. Ni ddeallai air o Saesneg pan aeth i'r ysgol gyntaf a buan y daeth dyddiau gofidiau arni oherwydd hynny ac oherwydd ei hamharodrwydd i siarad yr iaith honno a'i chyfeillion. Gwisgai'r Welsh Not a chael cwfa dda am hynny bron bob dydd o'r wythnos ac yr oedd ei hatgof am ddyddiau ysgolyn hunllefus. Ni allai'r fath awyrgylch beidio a chael effaith ddrwg ar unrhyw blentyn sensitif naill ai trwy dorri ei ysbryd neu drwy ei droi'n rebel glan. Troi'n rebel a wnaeth fy mam a mynd yn blentyn anodd ei drin yn yr ysgol. Un atgof yn unig a roddai lawenydd iddi o'r tymor cythryblus hwn yn ei hanes a hwnnw oedd na cheisiodd erioed gael gwared o'r W.N. trwy glecian wrth yr athrawes pan glywai plant eraill yn siarad Cymraeg. Yr oedd ei chorff yn ddu ac yn las yn feunyddiol a chafodd ei mam gryn ysgytwad pan ddaeth i'r ty o'r ysgol am y tro olaf a datgan "Dwy ddim yn mynd i'r ysgol byth mwy" a dangos y cleisiau mawr ar ei chorff. I ni heddiw, y mae ymddygiad anhygoel yr athrawon hyn yn anodd ei ddirnad. Ond llawn mor anodd ei ddeall yw'r ffaith fod y rhieni mor ddigyffro ynghylch y peth. Yr esboniad arferol ydyw eu bod mor awyddus i'w plant ddysgu Saesneg, ond anodd deall eu bod mor ddihidio o'r creulondeb mawr a ddefnyddiwyd yn ysgolion Cymru i wthio Saesneg ar y plant ac i wahardd y Gymraeg. Honnai fy mamgu y diwrnod hwnnw na wyddai fod pethau fel hyn yndigwydd, ac yr oedd fy mam o'r farn fod peth gwir yn hyn: yr oedd y rhieni eu hunain yn rhy barod o lawer i guro plant yn ddidrugaredd ac i'w rheoli'n haearnaidd nes bo'r plant yn ofni dweud gartref am yr hyn a ddigwyddai yn yr ysgol, gan gredu y byddai eu rhieni'n ochri gyda'r ysgol a rhoi cosb arall arnynt.Beth hynnag oedd yr eglurhad, yr oedd y plant wedi eu disgyblu i beidio a son wrth eu rhieni am ddim a ddigwyddai y tu allan i'r cartref. Wedi gadael ysgol, aeth fy mam i ddysgu ei "chrefft". Yr unig ddewis o waith oedd gan ferched y dyddiau hynny oedd rhwng mynd i wasanaethu, hynny yw, yn forwyn, a dysgu ei chrefft, sef mynd yn wniadyddes. Dodwyd fy mam i ddysgu ei chrefft ac erbyn ei bod yn 14 oed yr oedd yn gwnio ar ei llaw ei hunan, gan fynd o dy i dy at ei chwsmeriaid, ac yn ol yr arfer, yn gwifio dillad menywod a chrotesi, siwtiau i grots, crysau dynion, dillad gwely. Yr oedd ffasiynau'r dydd yn gymhleth a chymerai ddau ddiwrnod o wnio caled o wyth y bore hyd wyth y nos i'r wniadyddes wneud ffrog i fenyw. A'r tal am hynny oedd naw ceiniog y dydd a dau bryd o fwyd! Yr oedd mwy na digon o wniadyddesau yn yr ardal ac yr oedd ofn arnynt ofyn rhagor am eu gwaith rhag colli cwsmeriaid. Ond un fentrus oedd fy mam gyda phopeth ac wedi ymsefydlu fel gwniadyddes, cododd y ffil i swllt y dydd a hynny heb golli cymaint ag un cwsmer. Ei dadi oedd "Os galla'i fyw heb arian fe alla'i fyw heb waith"! Erbyn iddi briodi yn 28 oed ac ymadael a'i chrefft yr oedd yn ennill y swm tywysogaidd o ddau swllt y dydd. Dylanwadodd Diwygiad 1904-05 yn fawr ar fy mam fel ar lawer o bobi eraill a pharhaodd y dylanwad ar hyd ei hoes. Yr oedd yn angerddol wrth natur ac ar hyd ei hoes bu'n angerddol yn ei chrefydd. Bu fyw trwy gyfnod o dlodi mawr yn y De ac ar ben hynny yr oedd fy nhad yn fregus iechyd; yr oedd bywyd yn anodd felly ac yn chrefydd y cafodd nerth i wynebu helbulon bywyd. Yr oedd rhieni hwythau, megys llawer o genhedlaeth hynaf y pentref, wedi profi dylanwadau diwygiad 1859 a chafodd fy mam a'i chenhedlaeth eu codi mewn awyrgylch grefyddol iawn. Dwyshau eu crefydd, felly, yn hytrach na newid dim ar batrwm eu bywyd crefyddol a wnaeth eu profiad yn y Diwygiad. Yr oedd gwedd biwritainaidd ar grefydd yr ardal, a digon naturiol o'r herwydd oedd i'm mam am flynyddoedd farnu pleserau newyddion yr oes megis y sinema a dawnsio modern fel y barnai cenhedlaeth ei rhieni'r theatr a'r "ffair wagedd" a ddigwyddai ar ol gorffen prif fusnes ffeiriau'r cyfnod. Yr oeddynt yn rhan o'r bydolrwydd y mae'n rhaid i'r Cristion ymwrthod a hwy. Ond daeth i weld yn raddol mai pethau digon diniwed oedd llawer o bleserau'r byd ond peidio, ag ymroi gormod iddynt. Trodd chefn ar fyd yr eisteddfod pan briododd, er na chafodd blant ar unwaith, ac o hyn allan cafodd fynegiant i'w thalentau yn chrefydd. Daeth yn boblogaidd fel siaradwraig mewn cyrddau chwiorydd a gwnaeth gryn dipyn o bregethu cynorthwyol yn Gymraeg a Saesneg. Am ysbaid credai fod "crefydd yn fwy nag iaith", hoff siboleth y rhai hynny a ysai am droi'r capeli Cymraeg yn Saesneg ar yr esgus lleiaf wrth i'r iaith fain ddechrau dylifo dros ein hochr ni o Forgannwg, ond buan y daeth i weld fel yr oedd crefydd a diwylliant, yr holl werthoedd ysbrydol, yn edwino fel y Seisnigai'r fro a gwerthoedd mwyaf bas y Sais yn dod yn eu lle; ac aeth yn llai a llai parod i gymryd rhan yn y gweithgareddau crefyddol Saesneg. Yn y cyfamser, yr oedd wedi ennill crynenw iddi ei hunan yn nwyrain Morgannwg fel siaradwraig yn y "Sisterhood Rallies" a ddaeth i fri yn y capeli Saesneg, a byddai torfeydd mawr o wrageddyn gwrando arni'n annerch. Tua'r adeg pan oedd yn newidbarn ar ei dyletswydd fel Cymraes i ddefnyddio Saesneg er mwyn crefydd daeth gwahoddiad iddi o eglwys y Tabor, eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn Ffynnon Dfif, i ymaelodi yn yr eglwys. Yr oedd yr eglwys wedi mynd yn rhy wan i gynnal gweinidog a bu fy mam am flynyddoedd yn aelod yno, yn fawr pharch yn yr eglwys, ac yn amlach na pheidio yn cynnal dau wasanaeth ar y Sul fel rhan o'i dyletswydd fel aelod. Yr oedd yn golled i'r eglwys honno pan symudodd fy mam a minnau i Benarth i fyw. Yr oedd fy mam erbyn hyn yn 78 nylwydd oed, ond nid yn rhy hen i roi gwasanaeth cyffelyb i Bethel, eglwys yn Annibynwyr yn y dref, lle'r oedd wedi ymaelodi. Buan y daeth yr eglwys hon i wybod am doniau a galwyd arni'n aml i wasanaethu ar y Sul. Yn ogystal a bod yn grefyddwraig selog, yr oedd am flynyddoedd mawr iawn mor angerddol ei chred mewn Cenedlaetholdeb Cymreig a bu diddordeb ym Mhlaid Cymru yn fyw hyd y diwedd. Yr oedd pob Cenedlaetholwr yn siwro'i groeso yn ein ty ni. Pan oedd yn ifanc, y Blaid Ryddfrydol oedd popeth yn Nantgarw, fel yn y rhan fwyaf o Gymru ac arhosodd rhai o'n teulu ni'n Rhyddfrydwyr ar hyd eu hoes. Pan gododd y Blaid Lafur, troes fy nhad yn Sosialydd brwd ond yr oedd fy mam yn gwbl syfrdan ynghanol y dadlau politicaidd a fyddai rhwng fy nhad a'i brodyr. Am flynyddoedd, yr oedd fel ceiliog y gwynt yn troi gyda phob awel ac yn credu dadleuon pwy bynnag a fu'n traethu wrthi ddiwethaf. Gofalai fy nhaid bod yn mynd i bleidleisio gydag cf,iddo gael sicrhau bod yn pleidleisio i'r ymgeisydd Llafur! Onid daeth diweddar y dryswch i gyd pan euthum innau i'r Coleg, ac ymuno a changen y Coleg o'r Blaid Genedlaethol. Cofiaf fynd adref o'r cwrdd cyntaf ac adrodd yr hanes wrth fy mam. "Mofyn i Gymru yr un peth ag oedd Iwerddon yn ymladd amdano pan own i'n ifanc maen nhw, ia fa?" meddai. "Ie", meddwn i. "Wel", ebe hi'n gwbl bendant "Rwy'n gallu dyall peth feina. Dyna'r blaid rwy i'n mynd i berthyn iddi! " Ac o'r foment honno nid oedd tro arni. Aeth yn genedlaetholwraig dros ei phen, yn gwerthu un dwsin ar ddeg o'r 'Welsh Nation' o ddrws i ddrws yn y pentref ac yn dal ar bob cyfle i ddarbwyllo pawb, yn gydnabod a dieithriaid, o wirionedd neges y Blaid. Yr oedd ymateb fy nhad yn fwy cymysg, oblegid weithian byddai'n cynhyrfu yn erbyn yr holl son am y Blaid yn ein ty ni; ond byddai'n mynychu chyfarfodydd yn ffyddlon ac yn darllen llenyddiaeth a blas, a'r tu allan i'r ty, yn dadlau dros y Blaid ac yn erbyn y Blaid Lafur! Bu fy mam am flynyddoedd ar restr ddu'r heddlu lleol, 'anrhydedd' a roddai ddifyrrwch mawr iddi, oherwydd iddi rywdro blastro pyst teligraff y pentref yn y nos a phosteri Plaid Cymru. Ar hyd ei hoes, yr oedd phryder dros yr iaith Gynmraeg pan oedd cynifer o'i chyfoedion yn y pentref yn cefnu ar yr iaith. Nid oedd Saesneg yn cael bod yn ein ty ni. Siaradai dafodiaith bersain Cwm Taf yn llawnder a'i throsglwyddo yn etifeddiaeth ddihafal i mi. Pan ddechreuodd Amgueddfa Werin Sain Ffagan gasglu tafodieithoedd a thraddodiadau llafar, yr oedd croeso cynnes ar ein parth ni i'w hymchwilwyr a phrofodd fy mam ei bod yn drysordy dihysbydd o wybodaeth am y dafodiaith ac arferion a thraddodiadau'r cylch, arhoddai'n orawenus o gyfiawnder gwybodaeth. Yr oedd yn storiwraig ddihafal a gallai dynnu darlun byw o'r bywyd a'r cymeriadau a gofiai ddiwedd y ganrif ddiwethaf nes hudo'i gwrandawyr, a phan ddymunai, beri iddynt chwerthin yn aflywodraethus. Yn yr un modd, pan ddaeth i gysylltiad a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru, llawenydd iddi oedd gweld hod rhywrai'n ceisio cyfannu'r bwlch hwn eto yn ein treftadaeth ddiwylliannol, a phleser digymysg iddi oedd hod ganddi hithau ryw gyfraniad bychan i'w wneud yn y maes hwn. Braint iddi oedd cwrdd ag arweinwyr y mudiad, megis Mrs. Blake, Mr. W. S. Gwynn Williams a Mr.Emrys Cleaver, a chael croesawu ambell ddawnsiwr unigol, megis Mr. Roy Hurman, a ddymunai holi am ryw broblem a welai yn y disgrifiadau o ddanwnsiau'r cylch. Hyfrydwch pur iddi oedd gwylio cwmniau o ddawnswyr yn perfformio'r hen ddawnsiau a fyddai wedi mynd i ebargofiant oni bai am ei chof hi a dawn yr arbenigwyr i'w hatgyfodi. Yr oedd yn ffyddiog bod dydd Cymru i godi ar ei thraed wedi dod, am fod llaw Duw o'i phlaid. Dywedai'n aml, "Pan fo dyn yn trio atgyfodi, ma fa'n cwnnu un peth ar y tro, ond mae Duw yn cwnni'r cyfan gyda'i gilydd. A dishgwl di fel mae pawb heddiw yn gweithio yn ei gornal bach hunan i gwnnu'r genedl gyda'i gilydd!" Bu farw ar y 23ain o fis Gorffennaf, 1972, yn 92 mlwydd oed, yn hoyw ei meddwl ac yn llawn diddordeb hyd y diwedd. Yr oedd wedi byw bywyd llawn yn ei bro ei hun, gan wasanaethu Duw a'i chenedl hyd eithaf ei gallu, yn ol y goleuni a roddwyd iddi, ar hyd ei hoes.
|
Tudalennau'r We wedi'u paratoi gan / Web Pages
prepared by Dafydd Thomas, Aberystwyth
©Cymdeithas
Ddawns Werin Cymru ~ Welsh Folk Dance Society 1999
Diweddarwyd - 02/11/2002 - Last Update