Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth

Noson Ymarfer

Pob Nos Lun
8pm - 9:45pm
Aelwyd yr Urdd
Heol Llanbadarn
Aberystwyth

Parti Dawns Alwyd Aberystwyth Logo - Designed by Delyth Thomas 1996

Practice Night

Every Monday Night
8pm - 9:45pm
Aelwyd yr Urdd
Llanbadarn Road
Aberystwyth

Dyddiau Cynnar - Early Days

CEFNDIR DAWNSIO GWERIN YN YR URDD AC YN AELWYD ABERYSTWYTH

 Ysgrifennwyd gan Gwennant Gillespie ar gyfer 40fed Penblwydd PDAA -1996

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd D.J.James o Bontrhydfendigaid wedi gwneud ei ffortiwn yn Llundain ac yn awyddus i rannu cyfran 0'i eiddo i hybu gweithgareddau diwylliannol ac adloniadol yng Nghyrnru ac yn arbennig yng Ngheredigion. Un o'i gynlluniau oedd prynu'r 'Grand Hotel' yn y Borth i'w gyflwyno i'r Urdd i'w defnyddio fel canolfan i weithgarwch y mudiad. A chan mai Pantyfedwen oedd enw hen gartref Syr David James, roedd yn naturiol i'r 'Grand Hotel' gael ei hail-fedyddio a'i hadnabod fel Pantyfedwen.

Yno yn niwedd y pedwardegau y thrwy gydol y pumdegau y cynhaliodd yr Urdd ei gwersylloedd Cydwladol ym mis Corffennaf, a hefyd am gyfnod llai ei gwersylloedd Celtaidd adeg gwyliau'r Pasg, yn ogystal a chynadleddau a chyfarfodydd cenedlaethol y mudiad.

Roedd Pantyfedwen hefyd yn lle delfrydol i gynnal Aduniad i gyn-aelodau'a Swyddogion gwersyll, ac fe gynhaliwyd y cyntaf yn ystod gwyliau'r Nadolig a Chalan 1948-49. Fel rhan o raglen yr Aduniad hwnnw, roeddwn i wedi gwahodd Mrs Lois Blake, Saesnes o Lerpwl a ddaethai i fyw yn ymyl Corwen yn ystod y Rhyfel. Roedd Lois Blake yn hen aelod o Gymdeithas Ddawhs Werin Lloegr (E.F.D.S.) ac wedi'i thrwytho'i hun hefyd yn hanes dawnsiau gwerin Ewrop.

Wedi dod i fyw i Corwen, roedd yn naturiol iddi ddechrau holi ynglyn a dawnsiau Pwerin Cymru, a darganfod bod y traddodiad wedi Ilwyr ddiflannu ag eithrio 'Dawns Llanofer' a ddiogelwyd gan Arglwyddes Llanofer d'i chofio wedyn gan ferch telynor preswyl Plas Llanofer.

Fe fyddai'r arglwyddes yn mynnu bod y teulu a'r gwasanaethyddion yn gwisgo'r wisg Gymreig, yn canu caneuon gwerin, ac yn dawnsio i ddiddori ymwelwyr a fyddai'n aros yn y Plas. A dyna'r unig ddawns Gymreig y gallai Lois Blake gael hyd iddi wrth holi W.S. Gwynn Williams o Langollen, gwr yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth werin Ewrop.

Yna yn 1947, fe gafwyd Eisteddfod Ryngwladol gyntaf Llangollen.

Roedd Lois Blake yno, ac rown innau yno yn gwylio'r cyfoeth o ddawnsiau yr oedd y gwahanol wledydd yn gallu ymfalchio ynddyn nhw, ac yn gresynu bod Cymru wedi colli ei hetifeddiaeth. Wedi hynny y clywais i fod Lois Blake yn dechrau ymchwilio i hanes ein dawnsiau ninnaii. Y canlyniad oedd imi ei pherswadio i ddod atom i'r Aduniad ym Mhantyfedwen Nadolig 1948-49.

Mae'n anodd credu erbyn hyn mor ddibrofiad ac mor glogyrnaidd oeddem ni, ac mor anodd oedd dysgu hyd yn oed ddawnsiau syml fel 'Y Ddafad Gorniog', 'Arglwydd Caernarfon' a 'Dainty Davy' ! Roedd Lois Blake wedi cyfansoddi dawns syml yn arbennig ar gyfer yr Aduniad sef 'Robin Ddiog' a chyda honno a ' Y Ddafad Gorniog' y dechreuwyd. Ar wahan i fod yn drwsgwl a dibrofiad, roedd y bechgyn yn swil ac yn teimlo mai rhywbeth i ferched yn unig oedd dawnsio gwerin ! Ond o dipyn i beth, gyda chefnogaeth staff yr Urdd ac ambell un fel Bobi Gordon o Benygroes, fe ddalwyd ati, ac erbyn y diwedd, y bechgyn yn cydnabod bod hwyl i'w gael hyd yn oed mewn peth mor 'ferchetaidd' a dawnsio gwerin

Rhoddwyd hwb annisgwyl i'r diddordeb gan y Gwersyll Celtaidd cyntaf a gynhalwyd gan yr Urdd ym Mhantyfedwen. Roedd gennym barti cryf o Wyddelod, ac roedd y Gwyddelod yn dawnsio! A buan iawn y bu raid i ni - yn ferched a bechgyn i ymuno yn y dawnsiau - a chael ein hysbrydoli. A dyna ddiwedd ar y gred mai peth 'merch-etaidd' oedd dawnsio gwerin !

Yn dilyn sbardun y Gwersyll Celtaidd, fe aeth Aneurin Jenkins Jones, Dafydd Oliver a finnau ati i ddechrau dysgu dawnsiau syml i ieuenctid Aelwyd Aberystwyth, a chreu rhai dawnsiau 'Twmpath' ar eu cyfer. A chyn bo hir, fe lwyddwyd i ennyn eu diddordeb a'u hyder nes iddynt ddechrau dilyn 'Twmpathau Dawns' a drefnid yn y cylch gan Eddie Jones, ac yn ddiweddarach gan Evan Isaac, y Trefnydd Sir, gyda Band Gwerinwyr o Lannon yn gyfrifol am y gerddoriaeth.

Ar yr un pryd aeth staff yr Urdd ati i ffurfio parti dawns cened-laethol gyda Alice Williams yn hyfforddi a finnau'n Drefnydd, a chael gwahoddiad (trwy Lois Blake) i gymryd rhan yng Ngwyl Ddawns Werin yr E.F.D.S. yn yr Albert Hall yn Llundain. Yn sgil hynny, y dechreuoedd staff yr Urdd gynllunio eu Gwyl Werin genedlaethol eu hunain, gwyl a gynhaliwyd bob dwy flynedd o 1958 hyd 1972.

Ochr yn ochr a threfnu'r gwyliau hyn roedd dawnswyr Aelwyd Aberystwyth wedi pwyso arna i i ffurfio parti dawns yn yr Aelwyd. Fe'i ffurfiwyd yn 1956 a buan y daeth yn ddigon profiadol i gymryd rhan ym mhob un o Wyliau Gwerin yr Urdd yn eu tro ac i gystadlu y llwyddiannus yn flynyddol yn Eisteddfodau'r Urdd, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol. gan ddechrau yn Llangefni yn 1957. Ar yr un pryd bu aelodau'r parti yn asgwrn cefn i lawer o'r Twmpathau Dawns ar hyd a lled y wlad.

Doedd dim modd cael parti dawns llwyddiannus heb gyfeilyddion dawnus ac fe lwyddwyd i gael help amryw o gerddorion lleol yn eu tro, yn enwedig yn y Gwyliau Gwerin, yn cynnwys Edward Bon, Ralph Davies. Ond asgwrn cefn y cyfeilyddion parhaol, hunan-aberthol oedd Dilys Gravelle ar diweddar John Garnon, Megan Jones (Tibbott), Llinos Edwards a W.J. Griffiths.

Yn anochel, roedd cryn fynd a dod yn aelodaeth y parti dawns gan ei fod yn cynnwys nifer o fyfyrwyr a hefyd rai a weithiai yn y dref ac a fyddai wedyn yn symud i swyddi mewn ardaloedd eraill. Unig fantais hynny oedd eu bod yn mynd a'u diddordeb a'u profiad gyda nhw ac yn ffurfio partion dawns yn eu hardaloedd newydd. A'r partion hynny weithiau yn cystadlu yn erbyn Parti Aberystwyth ac yn mwynhau'r cyfeillgarwch yn y cystadlu.

Deuai cyfle yn awr ac yn y man i'r parti gymryd rhan mewn gwyliau y tu allan i Gymru. Buont yn yr Albert Hall yn Llundain droeon, ym Maidstone, Caint yn 1963, yn Wiesbaden, yr Almaen yn 1964, ac yn yr Europade yn Antwerp yn 1971. A chyfle hefyd yn 1967 i groesawu i Aberystwyth barti o Wiesbaden. Oherwydd galwadau gwaith, methwyd a derbyn gwahoddiad i Sweden, ac un arall i Siecoslofacia.

Fe gofir hefyd am gefnogaeth y Parti Dawns ar hyd y blynyddoedd i gyngherddau y 'Serenades', cyngherddau a gynhelid yn Neuadd y Brenin, Aberystwyth mewn cydweithrediad" a Chyngor y dref a oedd yn awyddus i roi delwedd fwy Cymreig i'r dref gyda golwg ar ddenu ymwelwyr.

Erbyn 1972, roeddwn i wedi bod yn arwain parti dawns yr Aelwyd am 15 mlynedd ac yn ymwybodol fod gan amryw o aelodau'r parti ddigon o brofiad a dawn i gymryd yr awenau, ond na wnaent hynny heb i mi fynnu rhoi'r gorau iddi. Yn y diwedd, fe gafwyd perswad ar Glyn a Lona Jones i gymryd at hyfforddi ac arwain, er eu bod hwythau erbyn hynny a mwy na digon o alwadau ar eu hamser. Ac fel popeth arall a wnaent, fe fu graen arbennig ar y dawnsio a'r hyfforddu, a bu amryw o gyn-aelodau yn asgwrn cefn i'r parti newydd. Trefnwyd i ymweld a San Brieuc, y dref yn Llydaw sy wedi ei hefeillio ag Aberystwyth. A dyna ddechrau ennyn diddordeb unwaith eto mewn ymweliadau tramor.

Ers rhai blynyddoedd bellach fe ddaeth y gwledydd Celtaidd i gyd yn fwy ymwybodol o'u perthynas a'i gilydd a chynnal gwyliau Gwerin ar y cyd fel y gwneir yn Killarney. Ac o bryd i'w gilydd, fe ymwelodd Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth ag Ynys Manaw, Iwerddon, Cernyw a Llydaw, a chroesawu ymweliadau gan y gwleydd hynny yn eu tro i Aberystwyth.

Ers 1950 bu cynnydd aruthrol mewn dawnsio gwerin yng Nghymru a chyfrannodd Aelwyd Aberystwyth yn helaeth at y datblygiad hwnnw fel y gwnaeth partion eraill wrth gwrs. Ac erbyn hyn mae hyd yn oed safon partion ifanc dan 12 oed yn Eisteddfodau'r Urdd yn anhygoel o uchel.

Ar anogaeth Lois Blake, fe ffurfiwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn 1949. Bu'r Gymdeithas yn cynnal cyrsiau rheolaidd ac yn trefnu gwyliau gwerin gan gymryd lle'r gwyliau a drefnid gynt gan yr Urdd. Mae hynny'n wir hefyd am amryw o dimau lleol sy'n aelodau o'r Gymdeithas - yn cynnwys parti Aelwyd Aberystwyth - sydd erbyn hyn dan oruchwyliaeth newydd eto. Mae'r gwyliau hyn yn cynnwys Gwyl Ifan yng Nghaerdydd a Nantgarw, Gwyl Caernarfon, Gwyl Sir Fon ac amryw eraill, yn gynnwys Gwyl Llangadfan a'r Ddawns Fawreddog yn Aberaeron pob mis Rhagfyr a drefnwyd gan Barti Dawns.

Ac ar hyd cyfnod o ddeugain mlynedd fe gafodd Aelwyd Aberystwyth y fraint o gyfrannu'n gyson yn y gwaith o adfer a diogelu un agwedd arbennig o'n diwylliant a'n hanes. A thrwy lwc mae'n dal i wneud hynny.

 Ysgrifennwyd gan Gwennant Gillespie ar gyfer 40fed Penblwydd PDAA -1996

 

Tudarlennau'r We wedi'u paratoi gan / Web Pages designed by -
Dafydd Thomas, Aberystwyth - [email protected]